Menu

Beth yw'r broses?

Beth yw’r broses a beth y mae ei eisiau arna i?

Mae’n syml trosglwyddo o’ch asiantaeth faethu bresennol i asiantaeth faethu o fewn Grŵp yr Asiantaeth Faethu Genedlaethol, ac rydym wrth law i wneud y broses mor llyfn ag y bo modd i chi. Y ffordd gyflymaf o ddarganfod y llwybr gorau i chi yw ein ffonio ni ar 0800 044 3030 er mwyn i ni eich rhoi ar ben ffordd.

Gall y broses amrywio ychydig yn dibynnu ar yr asiantaeth yr ydych gyda hi ar hyn o bryd ac a oes gennych unrhyw blant maeth sy’n aros gyda chi ai peidio.

Beth os ydw i eisoes yn maethu plentyn gydag asiantaeth wahanol?

Os oes gennych blentyn maeth sy’n aros gyda chi ar hyn o bryd, ein blaenoriaeth gyntaf fydd sicrhau nad yw’r trosglwyddo’n amharu ar ei ofal mewn unrhyw ffordd.

Byddwn yn eich tywys trwy gyfarfod â’ch asiantaeth bresennol, yr awdurdod lleol a ninnau lle, byddwn yn trafod y canlynol:

  • Byddwn yn eich tywys trwy gyfarfod â’ch asiantaeth bresennol, yr awdurdod lleol a ninnau lle, byddwn yn trafod y canlynol:
  • Sut y gallai’r symud effeithio ar y plentyn/plant mewn lleoliad.
  • A fydd yr asiantaeth newydd yn cefnogi ei anghenion penodol.
  • Y trefniad i symud y plentyn/plant i leoliad maethu arall, os nad yw’r lleoliad presennol i barhau

Wedyn, byddwn yn cyfarfod â chi, eich asiantaeth bresennol a gweithiwr cymdeithasol eich plentyn i gytuno ar y trefniadau a dechrau ar eich asesiad newydd. Byddwn yn darllen trwy eich Ffurflen F flaenorol, bydd angen i chi fynd i’n hyfforddiant tridiau Sgiliau i Faethu a mynd trwy’r gwiriadau angenrheidiol, megis gwiriad cofnodion troseddol. (We will read through your previous Form F, you will be required to attend our 3 day Skills To Foster training and undergo necessary checks, such as a criminal record check.)

Rwyf wedi maethu yn y gorffennol gydag asiantaeth arall, ond does gen i ddim plentyn yn fy ngofal ar hyn o bryd

Os nad oes gennych blentyn maeth yn aros gyda chi ar hyn o bryd, mae’r broses yn haws fyth, a gallwn symud yn syth i’r cam asesu.

Er mwyn i’n hasesiadau ddechrau, bydd angen i chi ddarparu eich Ffurflen F, y gallwn eich cynorthwyo gyda’r broses i’w chael gan eich asiantaeth bresennol. Wedyn byddwch yn cyfarfod â’ch gweithiwr cymdeithasol asesu a fydd gyda chi drwy gydol eich proses asesu. Bydd angen i chi fynd i’n hyfforddiant tridiau Sgiliau i Faethu a mynd trwy’r gwiriadau angenrheidiol, megis gwiriad cofnodion troseddol.

I gael cyngor am wneud y newid mor ddiffwdan ag y bo modd, ffoniwch ni ar 0800 044 3030 neu gofynnwch i ni eich ffonio’n ôl. Rydym bob amser yn barod i helpu.

For more information on transferring agency read The Fostering Networks Guide here

Close
Close