Menu

Specialist foster care support and training

Rydym yn cymryd y gofal mwyaf o’n maethwyr, gan roi i chi hyfforddiant gofal maeth dwys a chymorth 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Byddwch yn rhan o dîm o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella ansawdd bywyd plant maeth. Felly, gyda grwpiau cymorth a gweithwyr cymdeithasol wrth gefn, ni fyddwch chi byth ar eich pen eich hun.

Arbenigedd cenedlaethol – cymorth lleol

Er bod llawer o wasanaethau maethu wedi eu rheoli trwy ein prif swyddfa a’n swyddfeydd rhanbarthol, mae’r gwaith hanfodol o ran lleoliadau o ansawdd uchel i blant unigol o hyd yn canolbwyntio ar ofalwyr maeth a’u gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol ar lefel leol.

Hyfforddiant gofalwyr maeth

Darpara Teulu Maethu’r Asiantaeth Faethu Genedlaethol gyrsiau hyfforddi gofal maeth sydd ar gael i bob un o’n gofalwyr maeth. Maent yn hollol rad ac am ddim ac o ansawdd uchel, yn hyblyg ac yn syml. Fe’u cynlluniwyd i ddysgu sgiliau gwerthfawr i chi ac i’ch helpu i fagu hyder a dysgu gwybodaeth.

Crëwyd ein hyfforddiant gofal maeth i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw, felly ni fydd rhaid i chi fynd yn bell i gyrraedd un o’n canolfannau hyfforddi, gallwch hefyd fanteisio ar gyrsiau ychwanegol trwy eich cyfrifiadur, eich llechen a’ch ffôn clyfar. Cynigiwn gyrsiau trosolwg i ofalwyr maeth newydd, yn ogystal â hyfforddiant mwy penodol i fathau arbenigol o ofal maeth. (We offer overview courses for new foster carers, as well as more bespoke training for specialist types of foster care.)

Y rhain yw rhai o’n cyrsiau mwyaf poblogaidd:

  • Sgiliau i Faethu (eich hyfforddiant sylfaenol)
  • Therapi ymddygiadol gwybyddol
  • Cefnogi pobl ifanc sydd ag Awtistiaeth ac Aspergers
  • Ymlyniad a meithrin perthynas â phlant sydd wedi eu cam-drin a’u hesgeuluso
  • Maethu rhiant a phlentyn

Seicotherapi Datblygiadol Dyadig (DDP)

Nid yw rhai plant wedi cael cyfle i ddatblygu perthynas ddiogel, gadarnhaol, agos â rhiant neu roddwr gofal yn gynnar mewn bywyd, a gall hyn arwain at drawma ac anawsterau o ran ymddiried mewn eraill.

Mae Teulu Maethu’r Asiantaeth Faethu Genedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd rhoi i’n gofalwyr y sgiliau y mae arnynt eu hangen i ofalu am blant a phobl ifanc sydd wedi cael trawma. Gwnawn hyn trwy gynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i ofalwyr a phlant. Un o’r prif ddulliau a ddefnyddiwn yw Seicotherapi Datblygiadol Dyadig (DDP). Mae hwn yn therapi a dull o fagu plant sy’n canolbwyntio ar ymlyniad ac sy’n helpu i wella iechyd emosiynol plant, ac mae’n cefnogi’r math o wellhad adferol y mae ei angen ar blant sydd wedi cael trawma.

Datblygwyd y dull hwn yn wreiddiol gan Dan Hughes yn ymyriad therapiwtig i deuluoedd a oedd yn maethu neu wedi mabwysiadu plant a oedd â thrawma datblygiadol sylweddol ac anniogelwch ymlyniad, ac mae’n gyson ag anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi cael trawma datblygiadol.

Os ydych yn ystyried dod yn ofalwr maeth ac os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod sut y gallai’r dull therapiwtig hwn eich helpu i gefnogi plentyn neu berson ifanc sydd wedi cael trawma, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. (If you are considering becoming a foster carer and are interested in finding out how this therapeutic approach could help you to support a traumatised child or young person then please contact us for further information.)

Os ydych chi eisoes yn ofalwr maeth ac yr hoffech gael eich hyfforddi a’ch cefnogi gan un o’n hymarferwyr DDP, byddem yn falch o glywed gennych, felly ffoniwch ni am sgwrs am hyn. (If you are already a foster carer and would like to be trained and supported by one of our DDP practitioners then we’d love to hear from you too, so please call us for a chat on 0800 044 3030.)

Rydym gyda chi bob cam o’r ffordd

Yn ofalwr Teulu Maethu’r Asiantaeth Faethu Genedlaethol, cewch gymorth bob awr o’r dydd gan dimau lleol sydd â chymwysterau proffesiynol ac a fydd gyda chi bob cam o’r ffordd:

Swyddogion Ymgysylltu â Gofalwyr: Meithrin perthynas â darpar ofalwyr maeth a hefyd cefnogi ein gofalwyr maeth presennol trwy gynnal grwpiau cymorth a chynllunio digwyddiadau hwyliog ar gyfer yr holl deulu maethu.

Rheolwyr Rhanbarthol: Dod â’r gymuned o ofalwyr at ei gilydd, wrth fod yn eiriolwyr ar ran y plant a’r bobl ifanc yn ein gofal a sicrhau bod diogelu’n brif flaenoriaeth.

Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol: O ddechrau eich antur, byddwn yn dynodi eich gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol eich hun ar eich cyfer a fydd gyda chi trwy gydol eich asesiad a’r tu hwnt. Byddant yn darparu arweiniad i chi, mynediad at hyfforddiant a chymorth, a bod ar gael am sgwrs unrhyw bryd.

Teulu Gofalwyr Estynedig: Gyda 14 asiantaeth yn Nheulu Maethu’r Asiantaeth Faethu Genedlaethol, cewch chi gymorth gan bob un o’n gofalwyr, trwy ein system cyfeillion maethu, grwpiau cymorth, grwpiau maeth a llawer rhagor. Rydym yn annog ein gofalwyr maeth i feithrin perthnasoedd cryf, gan ein bod yn gwerthfawrogi mai ein gofalwyr maeth yw’r rhai sy’n gwybod yn iawn sut brofiad yw maethu, a mae eu gwybodaeth a’u profiad yn gwneud maethu’n haws!

Yn ogystal â’r holl gymorth hwn, rydym hefyd yn cynnig:

  • Cymorth ffôn 24 awr
  • Ymweliad misol a galwad ffôn fisol (A monthly visit and a weekly contact)
  • Lwfans maethu i helpu’n ariannol gyda gofalu am y plentyn (A fostering allowance to help financially with caring for a child or young person.)
  • Y cyfle i gwrdd â gofalwyr maeth eraill mewn grwpiau cymorth
  • Aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu
  • Yswiriant amddiffyn cyfreithiol
  • Newyddion a gwybodaeth reolaidd gofalwr maeth

"There are so many different avenues within fostering and my agency gives me the tools I need, to challenge myself and grow as an expert'.

Paul - National Fostering Group Foster Carer.

Ond nid dyna’r cyfan…

Mae Rheolwyr Rhanbarthol yn cefnogi’r gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol a’n gofalwyr maeth (Regional Managers support the supervising social workers and our foster carers)

Mae Mentoriaid Gofal yn ofalwyr maeth profiadol sy’n cynghori ac yn cefnogi ein gofalwyr maeth presennol (Carer Mentors are experienced foster carers who advise and support our current foster carers)

Cynhelir Grwpiau Cymorth yn lleol i chi drafod materion gyda gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth eraill o’ch ardal (Support Groups are held locally for you to discuss issues with social workers and other foster carers from your area)

Mae Gwasanaeth Cymorth ar gael i ddarparu cymorth proffesiynol ychwanegol ar gyfer meysydd gofal arbenigol (A Support Service is available to provide additional professional support services for specialist care areas)

Mae pob un o’n gofalwyr maeth yn aelodau o’r Rhwydwaith Faethu, sefydliad annibynnol sy’n darparu cymorth proffesiynol o ansawdd

Mae Hyfforddwyr Rhanbarthol yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn cael yr hyfforddiant y mae arnoch ei angen i fod yn ofalwr maeth gwych

Mae Uwch Reolwyr yn mynd i gyfarfodydd ymgynghori ledled y wlad i drafod materion lleol a chenedlaethol gyda chi a gofalwyr maeth eraill

Start your fostering journey with National Fostering Group

Start your adventure

Talk to us and find out more

We run regular events all around the UK where you can chat to foster carers to discover what it’s like to foster a child and take your first step towards making a huge difference.

Attend a local event, call the team on 0800 044 3030, or request a call back. We’re happy to answer all your questions about becoming a foster carer, so get in touch to find out everything you need to know.

Alternatively, take a look at our frequently asked questions to learn more about fostering with us, or read our fostering stories to learn more about what fostering is like from some of our real-life foster carers.

Close
Close