Find out if you could be a foster carer
In a few simple questions, you’ll know if you’re suitable to apply to become a foster carer.
Yn un o ofalwyr maeth Teulu Maethu’r Asiantaeth Faethu Genedlaethol, bydd buddion gofalu am blentyn yn newid eich bywyd, yn dawel eich meddwl o wybod bod un o asiantaethau mwyaf profiadol y DU yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd
Cynigia gofalwyr maeth, a elwir hefyd yn rhieni maeth, amgylchedd teuluol diogel a meithringar amser llawn, gan fuddsoddi amser ac egni er lles y plentyn neu’r person ifanc.
Er mwyn dod yn rhiant maeth, bydd angen i chi fod yn hyblyg, amyneddgar a goddefgar, gyda chartref cysurus sydd ag ystafell wely at unig ddefnydd eich plentyn maeth.
Mae cyfleoedd byrdymor a hirdymor i faethu plant, a byddwn yn cydweithio’n agos â chi i ddarganfod y cyfleoedd maethu perffaith. I gael rhagor o fanylion, darllenwch am y mathau o ofal maeth a gynigiwn.
Gallwch, fwy na thebyg! Er mwyn dod yn ofalwr maeth, yr hyn sy’n cyfrif yn y bôn yw eich gallu i ofalu am blentyn ac i’w feithrin.
Er mwyn dod yn gymwys i faethu, gallwch chi fod yn briod, yn cyd-fyw neu yn sengl, a gallech fod yn berchennog tŷ neu’n denant. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ethnig, diwylliannol a chrefyddol, cyfeiriadedd rhywiol ac abledd corfforol.
Os ydych chi’n sengl, bydd angen i chi fod gartref yn amser llawn neu fod gennych swydd ran-amser, hyblyg. Os ydych chi’n bâr, bydd angen i chi drefnu eich oriau gwaith er mwyn sicrhau bod un ohonoch ar gael bob amser.
Pan fyddwch yn gwneud cais i fynd yn ofalwr maeth, byddwn hefyd yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r canlynol:
Fel arfer, mae’n cymryd oddeutu tri neu bedwar mis, ac yn golygu bwrw golwg manwl ar eich bywyd. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol a’r tîm asiantaeth lleol yn gefn i chi bob cam o’r ffordd.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses asesu ac wedi dod yn ofalwr maeth gyda ni, byddwn yn parhau gyda chi bob cam o’r ffordd er mwyn darparu unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod arnoch ei angen. (Once you’ve completed the assessment process and become a foster carer with us, we’ll continue to be with you every step of the way to provide any additional support that you might need.) Mae ein gofalwyr maeth hefyd yn gymwys ar gyfer lwfans maethu hael i’w helpu i roi’r gofal gorau posib i’w plant maeth.
To start the fostering process, fill out our online enquiry form and a member of the NFA Fostering family will be in touch.
Rydym yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ledled y DU lle gallwch sgwrsio â rhieni maeth i ddarganfod sut brofiad yw maethu plentyn a chymryd eich cam cyntaf at wneud gwahaniaeth enfawr.
Dewch i ddigwyddiad lleol, ffoniwch y tîm ar 0800 044 3030, neugofynnwch i ni eich ffonio’n ôl .(Attend a local event, call the team on 0800 044 3030, or request a call back.) Rydym yn hapus i ateb eich holl gwestiynau am ddod yn ofalwr maeth, felly cysylltwch i ddarganfod popeth y mae angen i chi ei wybod.
Fel arall, darllenwch ein cwestiynau cyffredin i ddysgu rhagor am faethu gyda ni, neu darllenwch ein straeon maethu i ddysgu rhagor am sut brofiad yw maethu gan rai o’n gofalwyr maeth go iawn. (Alternatively, take a look at our frequently asked questions to learn more about fostering with us, or read our fostering stories to learn more about what fostering is like from some of our real-life foster carers.)