Menu

Pam Trosglwyddo

Transfer to the UK’s largest fostering family to gain access to the extensive support and training we offer all foster carers across our 14 agencies.

Yn genedlaethol lle gallwn, yn lleol lle mae’n cyfri’

Os ydych chi’n ofalwr maeth eisoes, cewch chi drosglwyddo i un o’n 14 asiantaeth eithriadol a dechrau ar antur fwyaf buddiol a gwerth chweil eich bywyd.

Gyda dros ddau ddegawd o brofiad o ofal maeth, mae ein teulu o 14 asiantaeth faethu yn cydweithio’n un tîm i helpu i ddarganfod a chynnig cymorth parhaus i ofalwyr maeth ymroddedig tebyg i chi sy’n gallu cynnig amgylchedd diogel a chefnogol i’r cannoedd o blant a phobl ifanc ledled y DU sy’n dal i chwilio am eu cartref parhaol.

Os ydych yn gofalu am berson ifanc ar hyn o bryd, mae modd o hyd i chi ymuno â Theulu Maethu’r Asiantaeth Faethu Genedlaethol. Byddwn yn siarad â chi am amgylchiadau’r lleoliad, a’ch helpu i symud heb effeithio ar y berthynas yr ydych wedi ei meithrin â’r plentyn maeth sydd gennych ar hyn o bryd.

Hanes dilychwin ein hasiantaethau maethu

Yn Lloegr, rydym yn hynod falch o’r ffaith fod 100% o’n gwasanaethau maethu rhanbarthol wedi cael eu cydnabod gan Ofsted yn naill ai’n ‘Rhagorol’ neu’n ‘Dda’. Mae ein safonau uchel o ofal maeth yr un mor uchel eu parch gan Arolygiaeth Gofal yr Alban ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cymorth lleol ymroddedig

Mae gofalwyr maeth Grŵp yr Asiantaeth Faethu Genedlaethol yn elwa o allu cyfunol ein hasiantaethau i ddaparu rhwydwaith glodwiw a dihafal o gymorth i ofalwyr maeth ar lefel leol a chenedlaethol.

Yn lleol, bydd gennych fynediad at dîm yn eich cymuned o weithwyr maethu proffesiynol, gan gynnwys gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol, sydd yn eu tro wedi eu cefnogi gan reolwyr rhanbarthol, tra bydd grwpiau cymorth cyfagos a mentoriaid gofal wrth law o hyd i roi cyngor ychwanegol pe baech mewn cyfnod cynharach yn eich antur yn ofalwr maeth, neu hyd yn oed er mwyn eich atgoffa o’r gwersi a ddysgoch gan asiantaeth flaenorol.

Os ydych yn chwilio am her newydd wrth ystyried symud i asiantaeth newydd, cewch hefyd fanteisio ar ein gwasanaeth cymorth ymroddedig sydd ar gael i ddarparu cymorth proffesiynol ar gyfer meysydd gofal arbenigol. Yn aml, gall hyn fod yn rhan werthfawr o’ch paratoad i dderbyn plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed ac efallai sydd ag anghenion mwy heriol nag yr ydych wedi dod ar eu traws o’r blaen wrth faethu gydag asiantaethau eraill. Credwn fod pob un o’n gofalwyr maeth yn dod atom gyda set unigryw o alluoedd, sgiliau a doniau. Byddwn ni yma, i’ch helpu i dyfu ac i ddod yn arbenigwr ar nifer o wahanol fathau o faethu.

Am fod plant wrth galon popeth a wnawn, rydym yn rhoi i’n gofalwyr maeth bopeth y mae arnynt eu hangen i greu amgylchedd cysurus a meithringar ar eu cyfer.

Wrth symud i un o’n hasiantaethau, byddwch yn elwa o’r canlynol:

  • Cymorth ffôn 24 awr
  • Cyfleoedd hyfforddi i ddod yn arbenigwr
  • Lwfans maethu hael
  • Aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu – lle cewch gyngor proffesiynol ar bopeth sy’n ymwneud â maethu
  • Yswiriant amddiffyn cyfreithiol
  • Perthynas gadarnhaol â’r holl Awdurdodau Lleol ledled y DU
  • Newyddion a gwybodaeth reolaidd gofalwr maeth

“We get regular supervision with our Social Worker and we know we can always phone the office and there is always someone there who can give you some guidance or some support”.

Tina - National Fostering Group Carer

Arbenigedd cenedlaethol

Mae ein teulu o asiantaethau maethu, wrth elwa o naws cymuned leol, hefyd yn elwa’n fawr o’n presenoldeb cenedlaethol.

Mae gennym brif swyddfa a swyddfeydd rhanbarthol ar draws y DU, yn llawn aelodau angerddol ac ymroddedig o’r tîm sy’n cyflawni llawer o’r agweddau gweinyddol ar faethu pan fyddwch yn gwneud cais i ddod yn ofalwr maeth gyda ni.

Yn ogystal â goruchwylio’r broses ymholiadau, ceisiadau a chymorth hyfforddi ein gofalwyr maeth, chwaraea ein gwasanaethau cymorth canolog a rhanbarthol ran allweddol o ran cynnal gwasanaethau maethu cyfredol a chyflwyno mentrau newydd gyda chefnogaeth gan rai o’r partneriaid maethu a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant mwyaf profiadol yn y byd.

Mae symud o’ch asiantaeth bresennol i’n hasiantaeth faethu, felly, yn golygu eich bod yn sicr o gael cymorth lleol, arbenigol bob awr o’r dydd.

At hyn ceir cefnogaeth teulu maethu sydd â chydnabyddiaeth genedlaethol sy’n eich galluogi i ganolbwyntio’n unig ar y peth yr ydych wedi ei wneud orau yn y gorffennol, sef sicrhau bod plant a phobl ifanc yn eich gofal mor hapus ac wedi eu grymuso cymaint ag y bo modd, gan adael i ni wneud y gweddill!

Talk to us and find out more

We’re happy to answer all your questions about fostering with The National Fostering Group so get in touch to find out everything you need to know.

Close
Close